canolfan newydd i gael tamaid o fwyd a thipyn o gân
Cartio Môn wrth ymyl yr A55 ym Mryngwran yw canolfan newydd adloniant Cymraeg Ynys Môn.
Yn ystod y misoedd nesaf gwelir mawrion y byd canu gwlad yno'n cyflwyno'i caneuon gorau ar ôl swper a pheint.
Wil Tân, Dylan a Neil, John ac Alun a Tammy Jones ac eraill i'w cadarnhau. Mae'r perchnogion Martin ac Eirian yn gobeithio bydd yr adnoddau newydd-bar hwyr,caffi a bwyd da, yn apelio at selogion Glantraeth erstalwm, ac unrhyw un arall sy'n mwynhau nos Sadwrn yn gwledda,canu a dawnsio.
Mae'r cwbl yn adeilad newydd sbon Cartio Môn. Eisoes enillodd Cartio Môn wobrwyon twristiaeth, a bu'r Tywysog Wiliam yno'n cartion. Efallai y bydd yr artistiaid uchod yn ei ddenu i wrando ar ganu Cymraeg!
rhif ffon 01407 741144